Arddangosfa Creu Man Diogelach yn Aberystwyth

Please see this weblink for information in English

Beth sy’n digwydd pan fydd sifiliaid yn dewis gweithredu heb arfau i amddiffyn eu hunain rhag trais? Pa mor rymusol yw ymwrthod â thrais wrth lunio presennol a dyfodol pobl?

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, 11 – 28 Mawrth 2024
DIGWYDDIAD AGORIADOL: 6pm ddydd Gwener 22 Mawrth

Mae’r arddangosfa CREU MAN DIOGELACH yn ymdrin â grym annisgwyl dulliau di-drais wrth amddiffyn sifiliaid sy’n byw yng nghanol trais. Mae’n dangos sut mae pobl gyffredin yn meddwl am amddiffyniad ac yn ei ymarfer heb ddefnyddio arfau, a pha ffyrdd trawsnewidiol o ddychmygu, gwneud, a byw y mae’n eu galluogi, ond hefyd beth yw ei gyfyngiadau.

Gyda’r mwyafrif o farwolaethau mewn rhyfeloedd ymhlith sifiliaid, a’r lefel uchaf erioed o dros 110 miliwn o bobl wedi’u dadleoli drwy rym ledled y byd, mae amddiffyn sifiliaid rhag niwed rhyfel, trais ac erledigaeth ymhlith materion pwysicaf ein hoes. Ond mae’r atebion a ddychmygir yn bennaf yn cynnwys defnyddio arfau i amddiffyn rhag trais, neu gymorth dyngarol i amddiffyn pobl yn gyfreithiol ac yn economaidd-gymdeithasol. Mewn cyferbyniad, mae’r bobl sy’n cael sylw yn yr arddangosfa hon yn dangos i ni bod dewisiadau di-drais, sifil o amddiffyn rhag trais corfforol yn gweithio, a sut maent yn gweithio.

Mae’r arddangosfa Creu Man Diogelach yn ymdrin â grym annisgwyl dulliau di-drais wrth amddiffyn sifiliaid sy’n byw yng nghanol trais. Mae Creu Man Diogelach yn tynnu ar brofiadau o Gamerŵn, Colombia, Indonesia, Kenya, Myanmar, Nigeria, Palestina, Ynysoedd y Philipinau, De Swdan, a Gwlad Thai, lle mae sifiliaid yn harneisio grym dulliau di-drais i greu mannau mwy diogel ac yn gweithio tuag at bresennol a dyfodol amgen. Mae’r gwrthrychau, y delweddau a’r lleisiau yn deillio o ddetholiad o 26 o brosiectau ymchwil a gynhaliwyd ar y cyd rhwng academyddion, cymunedau hunanamddiffynol a hebryngwyr sifil di-drais, a oedd yn ymdrin â sut mae amddiffyn sifiliaid heb drais yn gweithio. Mae’r profiadau y maent wedi’u casglu yn ein gwahodd i fyfyrio ar ein rhagfarnau a’n syniadau ein hunain o ran pwy all amddiffyn a sut i wneud hynny.

Mae’r arddangosfa CREU MAN DIOGELACH yn herio ei hymwelwyr i ailystyried credoau cyffredin am fregusrwydd, cyfryngu, a dewisiadau mewn rhyfel. Mae’n ein gwahodd i ddychmygu posibiliadau ar gyfer amddiffyn sifiliaid yn wahanol, ac mae’n ein hysbrydoli i weithredu a chyfrannu at y newid hwn.

DIGWYDDIAD AGORIADOL
6pm ddydd Gwener 22 Mawrth

Ymunwch â ni ar gyfer gwin, bwyd, cerddoriaeth ac i ddysgu mwy am yr arddangosfa. Sylwadau agoriadol gan:

  • yr Athro Angela Hatton, Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi)]
  • Dr Patrick Finney (Pennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol)
  • Berit Bliesemann de Guevara (Prif Ymchwilydd y Rhwydwaith Ymchwil Creu Man Diogelach).